Mae gan Iran / Persia a Chymru hanes balch sydd yn rhychwantu canrifoedd a chanrifoedd. Ond, beth sydd yn uno’u gorffennol, presennol a’r dyfodol?
Mae Sefydliad Prydeinig Astudiaethau Persiaidd yn falch o gydweithio gydag Wythnos Cymru Iran – rhan o raglen Wythnos Cymru Fyd-eang– a thri siaradwr gwadd ardderchog, sydd drwy eu meysydd arbenigedd, yn archwilio beth sydd yn cysylltu Iran a Chymru at ei gilydd.
‘An Ugly, Lovely Town’: Dylan Thomas in Tehran (and beyond), Lloyd Llewellyn-Jones
Yn 1951, wrth i densiynau godi oherwydd monopoli Prydeinig parhaus o gyflenwad olew Iran, a’r bardd Cymreig enwog a’r drygionus ddrwg, Dylan Thomas, yn cyrraedd Tehran. Cafodd ei anfon yno i ysgrifennu sgript ar gyfer ffilm bropaganda yn mawrygu rhinweddau’r Cwmni Olew Eingl-Iranaidd. Ar ôl ychydig o wythnosau yn y brifddinas, teithiodd i lawr i Abadan i weld gyda’i lygaid ei hunan y gweithwyr Prydeinig wrth eu gwaith ym maes olew Iran. Mae llythyron Thomas at ei wraig gartref yn dangos golwg syfrdanol anwybodus o hanes a diwylliant Iran, ac felly hefyd y gwna cofiant coeth yr ifanc Ebrahim Golestan, a gofnododd ei gyfarfod amser cinio gyda Dylan Thomas a llif rhodresgar eu sgwrs. Mae’r papur hwn yn archwilio disgrifiad Thomas ei hun o’i ymweliad ag Iran ac yn procio disgrifiad Golestan o’u sgwrs i ddatgelu meddylfryd y bardd yn ystod ei amser yn Iran.
Amdano’r siaradwr:
Cafodd Lloyd Llewellyn-Jones ei eni ym Mhenybont, ei fagu yng Nghefn Cribwr, ac aeth i Ysgol Gyfun Cynffig. Astudiodd Drama ym Mhrifysgol Hull (1985-1988), ac yna am radd Meistr (1996-1997) a PhD (1997-2000) mewn Hanes Hynafol ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn dilyn Cymrodoriaeth Ymchwil yn yr Open University a swydd darlithio yng Nghaerwysg, ymunodd ag Adran Glasuron ym Mhrifysgol Caeredin yn 2004 ac yn 2015 fe ddaeth yn Athro Astudiaethau Groegaidd ac Iranaidd Hynafol. Daeth yn Gadeirydd Hanes Hynafol ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Chwefror 2016.
Mae diddordebau ymchwil Lloyd yn cynnwys hanes sosio-ddiwylliannol Groegaidd hynafol, yn arbennig hanes menywod a materion rhywedd, gwisg, a diwylliant gweledol. Mae ei lyfr ‘Aphrodite’s Tortoise’: y fenyw o’r Hen Groeg a oedd yn gwisgo gorchudd wedi ennill llawer o gymeradwyaeth feirniadol. Yn ystod y ddegawd ddiwethaf, beth bynnag, mae wedi ehangu’i ymchwil i astudio’r Hen Persia, yn enwedig hanes a diwylliant y cyfnod Achaemenid (559-331 BCE) ac mae yn ffodus o fod yn un o ychydig iawn o ysgolheigion byd-eang i weithio ar Iran y cyfnod cyn Islamaidd. Mae ei gyhoeddiadau diweddar yn cynnwys ‘Ctesias’ History of Persia: Tales of the Orient and King and Court in Ancient Persia’.
Mae e’n teithio’n aml i Iran a’r Dwyrain Canol, yn aml yn arwain teithiau diwylliannol ac hanesyddol. Mae wedi gweithio gyda’r BBC, Channel 4 a’r History Channel a hyd yn oed gyda chwmniau cynhyrchiadau Hollywood fel cynghorydd hanesyddol. Mae’n adolygwr rheolaidd i’r The Times a’r Times Higher Education.