Yn cael ei gynnal gan British Business Bank, Llywodraeth Cymru, yr Adran dros Fasnach Rhyngwladol, Siambrau Cymru a City of London Corporation yn y Guildhall, bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys trafodaeth banel o dan ofal Fintech Wales gydag arweinyddion busnes sefydledig a busnes sydd yn tyfu. Cewch glywed mewnwelediadau’r panel ar obeithion technoleg ariannol yng Nghymru a’i ecosystem cefnogol iawn.
Yna ceir cyflawniadau cynnig syniad gan 8-10 busnes technoleg ariannol, arloesol, uchel eu twf, a fydd yn cyflwyno cyfleoedd buddsoddi sydd ar gael.
Yn dilyn yr arddangosfa, bydd Siambrau Cymru yn cynnal digwyddiad rhwydweithio mewn man cyfarfod agos – The Anthologist. Bydd y digwyddiad rhwydweithio yn darparu cyfle gwych i fuddsoddwyr a chynghorwyr gysylltu gyda pherchnogion busnes cyffrous a chanfod rhagor am Fuddsoddi yn Future Wales.
Cynhelir y digwyddiad gan British Business Bank, Llywodraeth Cymru, Arglwydd Faer Dinas Llundain a’r Adran dros Fasnach Rhyngwladol mewn partneriaeth gyda Siambrau Cymru a’r noddwyr Blake Morgan LLP.
Dyddiad: Dydd Mercher 1 Mawrth 2023
Panel & Chynnig Syniadau:
Amser: 16:00-18:00
Lleoliad: Guildhall [Mynd mewn trwy 71 Basinghall Street], Llundain, EC2V 7HH
Rhwydweithio:
Amser: 18:00-20:00