• Dyddiad
    23rd Chwefror 2026 at 6:00yp
  • Man cyfarfod
    The Conduit Club - London's Private Members Club For Changemakers
  • Gwesteiwr
    Ashoka UK
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Mae’n dda gennym eich gwahodd i’n Seremoni Sefydlu, achlysur y bu disgwyl eiddgar amdano, lle gwnawn groesawu pedwar Cymrawd Ashoka newydd i’n cymuned byd eang o Entrepreneurwyr Cymdeithasol blaengar.

Ymunwch â ni yn ystod Wythnos Cymru Llundain am noson i gynhyrfu’r meddwl yn y Conduit Club – clwb aelodau preifat Llundain i wneuthurwyr newid – gan archwilio arloesedd ym maes hawliau dynol a systemau cyfrifo o ran pensaerniaeth a gwerth mannau cyhoeddus.

Mae rhwydd hynt i chi ddod yng nghwmni ffrind neu gydweithiwr a allai fwynhau’r noson hon; un o uchabwyntiau ein blwyddyn ydyw!

Bydd y noson yn cynnwys:

  • Eliot Higgins, sefydlydd Bellingcat, ei waith wedi hyrwyddo archwiliadau a arweinir gan ddinasyddion drwy wybodaeth ffynonellau agored, gan drawsnewid sut y gall tystiolaeth ddigidol a data sydd ar gael i’r cyhoedd gefnogi newyddiaduraeth, atebolrwydd, ac ymdrechion hawliau dynol.
  • Jeremy Nicholls, sefydlydd Social Value International, sydd wedi helpu ffurfio dulliau newydd i werth cymdeithasol, economiau llesiant a mesuriadau effaith—gan gefnogi sefydliadau a gwneuthurwyr penderfyniadau i ddeall yr hyn sy’n bwysig y tu hwnt i dwf ariannol yn well a gweithredu arno.
  • Eyal Weizman, sefydlydd Forensic Architecture, ac Athro Diwylliannau Gofodol a Gweledol yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain, sydd ar flaen y gad o ran defnyddio dehongliadau gofodol, y cyfryngau a ffynonellau gwybodaeth agored o ran archwiliadau hawliau dynol, gan archwilio sut y bydd amgylcheddau, technolegau a grym yn croestorri.
  • Indy Johar, sefydlydd ar y cyd Dark Matter Labs, y mae ei waith yn canolbwyntio ar ailddychmygu systemau dinesig, economaidd ac amgylcheddol—gan bonito dylunio, polisïau ac arloesedd i helpu meithrin dyfodol mwy cyfiawn ac atgynhyrchiol.