• Dyddiad
    27th Chwefror 2019 at 11:30yb
  • Man cyfarfod
    RocketSpace
  • Gwesteiwr
    BioWales
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Er ei bod yn wlad fach, mae gan Gymru lawer i’w gynnig.

Mae llawer o gwmnïau yn llwyddo yng Nghymru; mae yna gysylltiadau cryf rhwng diwydiant a’r byd academaidd; mae cymuned Ymchwil a Datblygu ffyniannus yma; mae yna gynnig mewnfuddsoddi cadarn yma a Hyb Gwyddorau Bywyd i lywio atebion effeithiol ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru. Rydym wedi gosod sylfeini cadarn, ond rydym yn awyddus i fynd ymhellach!

Mae Wythnos Cymru yn Llundain yn gyfle perffaith i rannu gwybodaeth am Gymru gyda chi a meithrin cysylltiadau newydd er mwyn cyflymu arloesi a budd economaidd.

Dyma gyfle i gychwyn y sgwrs yn ein digwyddiad arddangos a’n cinio rhwydweithio a’n derbyniad diodydd.

Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at LifeSciences.llwy.cymru