Mae Annie Cwrt Mawr yn ddrama un ferch yn seiliedig ar fywyd Annie Jane Hughes-Griffiths, ymgyrchydd dros heddwch a roddodd lais i fenywod Cymru ar gydraddoldeb a materion rhyngwladol.
Yn 1924, arweiniodd ddirprwyaeth o Gymru i gyflwyno'r Ddeiseb Heddwch am 'Fyd Di-ryfel' i fenywod yr Unol Daleithiau. Dyma ddrama am ddelfrydiaeth, angerdd a gobaith sydd yn para oddeutu 1 awr.