• Dyddiad
    7th Mawrth 2020 at 01:00yp
  • Man cyfarfod
    London Welsh RFC, Old Deer Park, Richmond
  • Gwesteiwr
    CPMS in partnership with Headway RFC
  • Categori
    Chwaraeon

Mae CPMS yn hynod o gyffrous i gyhoeddi mai gêm nesaf yr Headway Select XV yw’r un yn erbyn Clwb Rygbi Cymry Llundain yn Old Deer Park yn Richmond, ddydd Sadwrn 7 Mawrth 2020, yr un diwrnod y bydd Cymru’n chwarae Lloegr yn Twickenham yn y Chwe Gwlad.

Mae Old Deer Park yn enwog am ei ddiwrnod anhygoel pan fydd Lloegr yn chwarae Cymru yn y Chwe Gwlad, gydag oddeutu 2,500 o bobl wedi bod yn bresennol yn yr ychydig flynyddoedd diweddaraf i fwynhau’r achlysur a gwylio’r gêm yn fyw yn ei digwyddiad pabell fawr.

Bydd hyn yn llwyfan ffantastig ar gyfer ein gêm fel tamaid i aros pryd i’r diwrnod ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb yng Nghymry Llundain am benderfynu symud ymlaen â ni ar gyfer y gêm hon a chefnogi’n hachos.

Bydd ein gêm yn dechrau am 13:00 ac yna’r gêm ryngwladol i ddilyn am 16:45.

Byddwn yn codi arian wrth ochr y maes chwarae ac ar ôl y gêm agoriadol, felly os byddwch yn gallu, dewch atom i fwynhau diwrnod ffantastig o rygbi a’n helpu i godi arian allweddol i roi cymorth i oroeswyr niwed ar yr ymennydd yn ein cymuned leol.

Bydd tocynnau ar gyfer y diwrnod yn costio £20 a byddan nhw ar gael drwy wefan clwb rygi Cymry Llundain yn y misoedd i ddod - https://www.londonwelshrfc.com