Mae Gwen John (1876 – 1939) yn enwog am ei phaentiadau teimladwy o fenywod ac ystafelloedd, ac yn cael ei hystyried yn un o artistiaid Cymreig gorau’r ugeinfed ganrif.
Ar ôl iddi farw, gadawodd Gwen John stiwdio llawn cannoedd o luniau ac astudiaethau, a gafodd eu rhoi yng ngofal Amgueddfa Cymru. Dyma’r corff mwyaf o waith Gwen John yn y byd, ac mae’r casgliad arbennig hwn, sydd prin yn cael ei arddangos, yn rhoi cipolwg breintiedig ar brosesau a thechnegau’r artist.
Bydd 2026 yn nodi 150 mlynedd ers genedigaeth Gwen John. I ddathlu’r achlysur hwn, mae arddangosfa fawr wedi’i chynllunio gan Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth ag Orielau Cenedlaethol yr Alban, Yale Center for British Art a National Museum of Women in the Arts, UDA.
Dyma fydd yr arddangosfa fawr unigol gyntaf o waith Gwen John ers dros 40 mlynedd. Yn taflu goleuni ar gasgliad stiwdio’r artist, bydd yn arddangos paentiadau a lluniau o flynyddoedd cynnar Gwen John yng Nghymru hyd at ei gwaith olaf, gan gynnig cyfle unigryw i archwilio datblygiad ei gwaith celf.
Ymunwch â ni am noson gyda churaduron, cadwraethwyr, beirdd, artistiaid ac arbenigwyr, yn edrych ar brosesau creadigol a thechnegau arloesol yr artist enwog. Dewch i fod yn rhan o drafodaeth am natur gyfresol celf Gwen John, ei defnydd o liwiau bywiog, natur grefyddol ei chelf, y derbyniad rhyngwladol a gwaddol ei gwaith.
Gobeithiwn y gallwch chi ymuno â ni.
Tocynnau: Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, ond bydd angen tocyn i fynychu. Bydd tocynnau ar gael yn fuan.
Cod gwisg: Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb. Dewch fel yr ydych chi.
Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ond rydyn ni’n fwy nag adeiladau. Mae ein safleoedd yn ofodau cymunedol hanfodol sy’n llawer mwy na lle ar fap. Ein nod yw defnyddio stori Cymru i ysbrydoli pawb fyddwn ni’n eu cyffwrdd, gan gydnabod bod gan bawb rywbeth i’w gyfrannu drwy ein casgliadau a’r gwaith rydyn ni’n ei wneud.