• Dyddiad
    26th Chwefror 2026 at 6:00yp
  • Man cyfarfod
    PwC Embankment
  • Gwesteiwr
    Invest in Cardiff & Meet in Cardiff
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Mae Caerdydd, prifddinas Cymru yn un o’r dinasoedd yn y Deyrnas Unedig sydd yn datblygu’n gyflymaf ac yn leoliad buddsoddi blaengar ymysg Dinasoedd Craidd y DU.

Mae’r ddinas yn gyfranogwr mawr i economi Cymru, yn cael ei yrru gan ganol deinamig y ddinas a Bae atgyfodol a sectorau twf allweddol, gan gynnwys gwsanaethau cyllid, Gwyddorau bywyd, technoleg ariannol; diwydiannau creadigol a diwylliannol; lletygarwch a hamdden a chynhyrchu blaengar.

Mae buddsoddwyr yn taflu golau ar apêI momentwm twf a doniau Caerdydd, lle mae gan bron dau draean o’r boblogaeth radd neu rywbeth cydradd.

Mae’r ddinas hefyd yn gyrchfan digwyddiadau ac ymwelwyr blaengar, gan atynnu digwyddiadau chwaraeon, diwylliannol, academaidd a chorfforaethol uchel eu proffil.

Mae’r ddinas yn awyddus i atynnu buddsoddi pellach, ac mae’r arddangosfa hon yn gyfle gwych i fuddsoddwyr newydd a’r rheini sy’n buddsoddi eisoes, i glywed gan banelwyr allweddol o gwmnïau sylweddol sy’n buddsoddi yn isadeiledd y ddinas ac yn hyrwyddo atffurfiant mawr yn ystod y dair neu bum mlynedd nesaf.