Bydd Jeremy Bowen Rees, Rheolwr Gyfarwyddwr Landsker Business Solutions Ltd, (Hen dŷ gwyn ar dâf, Cymru) yn trafod buddion datblygu’ch busnes yng Nghymru.
Yn y weminar hon bydd Jeremy yn amlygu’r cyfleoedd a’r adnoddau sydd yn gwneud Cymru’n wahanol i fusnesau sy’n dechrau a busnesau sefydledig fel ei gilydd.
Pynciau’n cynnwys:
- Pam Gymru?
- Sectorau Diwydiant Allweddol
- Rhaglenni Cefnogi Busnes
- Cyfleoedd unigryw yn benodol i Gymru
- Manteision ac Anfanteision Cymru Wledig – Busnes a Phersonol
- Goblygiadau Covid 19
- ‘Cymreictod’, y Gwerth Ychwanegol i’ch Busnes
Ers ei greu yn 2001, mae Landsker Business Solutions Ltd wedi sefydlu’i hunan fel yr ymgynghoriaeth busnes i fynd ato ar gyfer cefnogaeth fusnes o ansawdd yng Nghymru.
Yn ymgynghoriaeth sydd wedi ennill nifer o wobrau, bydd Landsker yn gweithio gyda sefydliadau’r sectorau preifat a chyhoeddus a’r trydydd sector, Cymru gyfan, gan ddarparu cymorth ar bob agwedd o fusnes, o gynllunio, ariannu, darogan a strategaeth i farchnata, AD, cynaladwyedd a llawer mwy.
Mae’r ystod lawn o wasanaethau a ddarperir ganddo yn sicrhau y gall Landsker gefnogi busnesau o’u syniad cychwynnol i hurio’u haelod cyntaf o staff, i hurio’u canfed aelod a thu hwnt.
Mae Landsker wedi’i achredu ar fwy o raglenni ariannu Llywodraeth Cymru ac eraill nag unrhyw ymgynghoriaeth busnes preifat arall yng Nghymru, mae wedi cynorthwyo mwy na 2,300 o fusnesau, wedi cael mynediad i fwy na £120 miliwn o ran ariannu cleientiaid, wedi helpu lansio 700 o fusnesau newydd a helpu creu oddeutu 4,000 o swyddi hyd yn hyn.
Mae Landsker yn falch o symylrwydd ei genhadaeth ‘i helpu cleientiaid i wneud y penderfyniadau busnes gorau’.