Ymunwch â ni ar gyfer lansio GlobalWelsh Llundain, rhwydwaith Gymreig newydd sbon yn Llundain.
Rydym yn creu canolbwynt nwyfus o alltudiaid Cymreig a’i ganolfan yn Llundain sydd am gysylltu â, a rhoi’n ôl i Gymru. Beth bynnag eich cyswllt â Chymru, os ydych yn teimlo loes hiraeth, yna dyma’r rhwydwaith i chi.
Wedi’i lansio yn 2017, mae gan GlobalWelsh bellach aelodau mewn 42 o wledydd o gwmpas y byd (ac yn cynyddu). Sefydliad ar lawr gwlad, wedi’i ariannu’n breifat a’i symbylu gan angerdd, ac nad yw ar gyfer gwneud elw, ydym, a’r ymgyrch i gysylltu â chwe miliwn o Gymry’r byd ar gyfer budd economaidd ein gwlad ryfeddol.
Bydd GlobalWelsh Llundain yn pontio’r bwlch rhwng Cymru a Llundain a cheisio hwyluso cyfleoedd i bobl Gymreig yn Llundain ac yng Nghymru. Bydd canolbwynt o bobl o anian debyg a’i ganolfan yn lleol o fudd i aelodau yn ogystal â mynediad i gyfleoedd mentora byd eang, cyngor a chanllaw ar dwf ac allforio a rhwydwaith byd eang sy’n cynyddu o bobl Gymreig – a llawer mwy (i’w gyhoeddi).
Ymunwch â ni am...
Ddiodydd + bwyd bys a bawd,cerddoriaeth Gymreig (TBC),Areithiau gan entrepreneuriaid Cymreig, a Rhwydweithio
Mae miloedd o bobl Gymreig yn byw yn Llundain ond yn anffodus dim ond lle i 120 sydd gennym yn swyddfa Spotify's yn Llundain, felly brysiwch!
Mwyafswm. 1 tocyn y person.
#WearetheGlobalWelsh