Ymunwch â ni i ganfod mwy am y cyfraniad aruthrol gwirioneddol a wnaeth tri dyluniwr Cymreig o Gymoedd De Cymru i rai o’r brandiau rhyngwladol mwyaf eiconig a chydnabyddedig . . . yn amrywio o fandiau roc blaenllaw, brandiau chwaraeon rhyngwladol a’r loli iâ bendigedig!
Mae Alex Jenkins yn ddyluniwr brand a ffotograffydd masnachol a’i ganolfan yng Nghaerdydd. Bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr Celf yn XL Recordings gan ddylunio ymgyrchoedd albwm a sengl i’r The Prodigy, The Streets, SL2, Jonny L, Basement Jaxx, Roni Size and example.
Caiff ei ddyluniad clawr albwm The Prodigy ‘The Fat of the Land’ ei gynnwys yn y llyfr ‘100 best album covers of all time’ gan Storm Thorgerson ac Aubrey Powell.
Gadawodd XL i ymuno â Lambie-Nairn, gan weithio ar uniaethau brand i BBC Radio 1, 2, 3, 4 a Five Live, BBC Knowledge, Millennium Dome ac O2.
Mae prosiectau diweddarach yng Nghymru wedi cynnwys brandiau i Bafta Cymru Awards, KIN+ILK a Cardiff City of Arcades.
www.designedforlife.studio
www.alexlloydjenkins.com
Paul Williams yw’r perchennog yn Springetts, asiantaeth dylunio brand annibynnol byd-eang sydd wedi ennill gwobrau a’i ganolfan yn Llundain.
Bydd Springetts yn creu ‘brand love’ i gleientiaid o gread brand Happy Eggs i esblygiad brand Manchester United i adfywiad brand brandiau eiconig fel Fab.
Ym marn Paul dylai brandiau ennyn trafodaeth, cysylltu’n emosiynol a gwneud gwahaniaeth.
Mae’n dad, sgriblwr, dyluniwr ac fel y rhan fwyaf o ddynion o’r cymoedd mae’i ben, yn rhyfedd, yn mynd yn dewach pob dydd.
Mae Phil Lee yn Gyfarwyddwr Creadigol yn Untold Studios.
Mae ei brosiectau diweddar yn cynnwys yr ymgyrch albwm presennol i Royal Blood, albwm rhif un Nines ‘Crabs In A Bucket’, albwm Kano ‘Hoodie’s All Summer’, y sioe ‘Agenda’ i Beats By Dre, perfformiadau byw gan James Bay a Sleaford Mods, yn ogystal â hysbysebion a digwyddiad lansio llif byw ar y cyd â Roger Federer ar gyfer On Running.
Yn gynt fel Cyfarwyddwr Creadigol XL Recordings, goruchwyliodd Phil allbwn gweledol y label a gweithiodd ar y cyd â pherfformwyr megis Adele, Beck, The xx, Radiohead, The Prodigy, Sampha, MIA, FKA twigs, Sigur Rós, Dizzee Rascal, The White Stripes a chynifer mwy.
Amlygwyd Phil fel un o 50 o’r Arweinwyr Creadigol gorau yn y Creative Review yn 2017.
Cyfarfu Alex, Paul a Phil ym 1989 yn yr ysgol yn Treorci yng Nghwm Rhondda ac maen nhw wedi parhau yn ffrindiau da ers hynny.