Bydd FinTech Wales, y gymdeithas aelodaeth annibynnol a phencampwr y diwydiant Technoleg Ariannol a Gwasanaethau Ariannol yng Nghymru, yn cynnal sgwrs ar-lein ar gyfer Wythnos Cymru Llundain gyda’r entrepreneur Technoleg Ariannol a chyn CEO Worldpay, Ron Kalifa OBE.
Wedi’i noddi gan y darparwr dadansoddeg a data byd-eang, LexisNexis Risk Solutions, sesiwn C&A fydd y weminar gydag un, gellir dadlau, o leisiau byd-eang mwyaf Technoleg Ariannol, a bydd yn olrhain ei daith, sydd yn cynnwys creu Worldpay fel un dechreuol bach i’r gorforaeth byd-eang yw heddiw.
Bydd gan Ron, sydd wedi derbyn OBE yn 2018 am wasanaethau i gyllid a thechnoleg, ddigon i siarad amdano. Arweiniodd ei enw da fel un o leisiau blaenllaw'r byd ar dechnoleg ariannol iddo gael ei benodi gan Lywodraeth y DU yn 2020 i arwain ei Hadolygiad Strategol Technoleg Ariannol Annibynnol.
Ar ôl dechrau ei yrfa yn y sector ariannol yn NatWest yn 1978, aeth Ron yn ddiweddarach i ymuno â’r Royal Bank of Scotland (RBS), ble bu’n gweithio ym maes strategaeth, marchnata a gweithrediadau ledled y DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau.
Daeth Ron yn Is-gadeirydd Worldpay yn 2013, wedi gwasanaethu yno fel CEO am 10 mlynedd cyn hynny. O dan arweinyddiaeth a mewnwelediad strategol Ron, datblygodd Worldpay o adran, heb fuddsoddiad digonol, banc DU i gwmni FTSE 100, ac yn fwy diweddar, ymgyfunodd â’r FIS i greu cwmni taliadau byd-eang $75bn sydd wedi’i restru ar y NYSE.
Cadeirydd presennol Network International a Future Learn, mae Ron hefyd yn eistedd ar amryw o fyrddau nad ydynt ar gyfer gwneud elw. Mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol i Transport for London ac yn 2019 cafodd ei benodi fel Cyfarwyddwr Anweithredol Llys Cyfarwyddwyr Banc Lloegr. Mae Ron hefyd yn aelod o Fwrdd Criced Lloegr a Chymru a Chyngor Coleg Ymerodrol Llundain.
Meddai CEO FinTech Wales, Sarah Williams-Gardner: “yn ddiamau, bydd enw da Ron fel llais byd-eang Technoleg Ariannol yn darparu rhai mewnwelediadau diddorol ac ysbrydoledig i’r sector ac rydym wrth ein bodd i gynnal y C&A hwn gydag ef.”
“Yn ogystal â chlywed am ei daith ryfeddol, gobeithio byddwn yn siarad am rhai o ddeilliannau’r Adolygiad Strategol Technoleg Ariannol Annibynnol mae Ron wrth y llyw. Digwyddiad hollol angenrheidiol yw hwn i unrhyw un yn gweithio yn y sector Technoleg Ariannol.”
Amcangyfrifir fod y sector technoleg ariannol yn y DU yn werth oddeutu £7 biliwn i’r economi ac yn cyflogi cannoedd o filoedd o bobl ledled y DU. Bydd yr adolygiad yn helpu sicrhau bod gan Dechnoleg Ariannol y DU yr adnoddau i dyfu a ffynnu, bod yr amodau’n iawn i fabwysiadu technoleg ariannol yn eang, a bod enw da byd-eang y DU dros arloesi yn cael ei gynnal a’i hyrwyddo.