• Dyddiad
    16th Chwefror 2019 at 09:00yb
  • Man cyfarfod
    Kings Cross Station
  • Gwesteiwr
    Ffestiniog & Welsh Highland Railways
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Bydd yr arddangosfa o 16 – 24 Chwefror – o 9am i 6pm bob dydd.

183 o flynyddoedd yn ôl, mewn rhan anghysbell o Ogledd Cymru, cychwynnodd Rheilffordd Ffestiniog ar ei hynt busnes. Ar y dechrau, defnyddiwyd y rheilffordd i gario llechi o’r chwareli ym Mlaenau Ffestiniog i’r môr ym Mhorthmadog, lle cafodd ei lwytho ar longau a hwyliodd ledled y byd.

Mae’r rheilffordd heddiw yn wahanol iawn . . .

Heddiw, mae rheilffordd Ffestiniog a’i chwaer, rheilffordd Eryri, yn ffurfio’r llinell dreftadaeth hiraf yn y DU, yn ymestyn am 40 o filltiroedd ar yr arfordir o Gaernarfon i Borthmadog a Blaenau Ffestiniog ac fe’i cydnabyddir fel un o’r 25 o reilffyrdd gorau’r byd. Rhed y rheilffordd drwy rai o olygfeydd mwyaf trawiadol y Deyrnas Unedig, golygfeydd a welir o foethusrwydd eich sedd yn ein cerbydau moethus.

Bydd y rheilffyrdd yn cario oddeutu 400,000 o deithwyr bob blwyddyn a bydd y trenau’n teithio tua 63,500 o filltiroedd - mwy na dwywaith a hanner y pellter o amgylch cyhydedd y Ddaear.

Eleni yn King’s Cross byddwn yn canolbwyntio ar ein treftadaeth, gan ddangos dau drên: trên ‘Quarry Hunslet’ o’r oes Fictoria – Velinheli, a Chaloner – trên a boiler fertigol a adeiladwyd yn 1877 gan de Winton o Gaernarfon, ac roedd ei ffatri prin tafliad carreg o’n gorsaf pen y daith ni, newydd ei hadeiladu. Cafodd y ddau injan stêm bychan, ond yn dwyllodrus o bwerus, eu defnyddio i gludo llechi o gwmpas y chwareli lleol. Maen nhw bellach wedi’u hadfer yn llwyddiannus gan ofal i’r hyn fuont cynt, gan gadw’r dreftadaeth yn fyw i addysgu’r cenedlaethau iau. Rydym yn ddiolchgar iawn i’n ffrindiau yn Leighton Buzzard Railway am ein caniatáui arddangos Chaloner.

Bydd y trenau yn cyrraedd Gorsaf King’s Cross am 0100 ddydd Sadwrn Chwefror 16, a byddant yn cael eu harddangos yn y neuadd docynnau tan ddydd Sul Chwefror 24. Yn ystod y cyfnod arddangos, bydd ein staff a gwirfoddolwyr wrth law i siarad â’r cyhoedd ac ateb cwestiynau. Mae’r orsaf newydd, gwerth £2.2m, yng Nghaernarfon yn ffurfio rhan allweddol o Brosiect Datblygu’r Glannau gwerth £16m, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Sirol Gwynedd, i roi hwb mawr i’r ardal hanesyddol hon. Gan agor i’r cyhoedd ar ddiwedd Mawrth 2019, bydd yr adeilad tra modern yn cynnig cyfleusterau gwell i ymwelwyr yn cyrraedd ar y ffyrdd neu’r rheilffyrdd o Borthmadog, ble cafodd prosiect pwysig i wneud gwelliannau i orsaf ei gwblhau yn 2014.