• Dyddiad
    16th Chwefror 2024 at 07:00yp
  • Man cyfarfod
    Welsh Church of Central London, Eastcastle Street, London W1W 8DJ
  • Gwesteiwr
    London Welsh Chorale
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Mae’n bleser gan Corâl Cymry Llundain a Edward-Rhys Harry gyhoeddi Gŵyl Cerddoriaeth Gymreig Llundain.

Cynhelir yr Ŵyl dros y penwythnos 16 a 17 Chwefror, 2024.

Nos Wener 16 Chwefror, bydd côrau gwadd o Gymru ac o Loegr yn cyflwyno cyngerdd o eitemau repertoire yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain. Bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys Rownd Derfynol cystadleuaeth ‘Canwr Ifanc Cymreig Llundain’, wedi’i chydblethu â’r perfformiadau corawl.

Nos Sadwrn 17 Chwefror, bydd yr Ŵyl yn cynnal Cyngerdd Gala yn Regent Hall, 275 Oxford Street, W1C 2DJ. Bydd pedwar côr gwadd yn ymuno â Corâl Cymry Llundain i berfformio rhaglen gyffrous o gerddoriaeth, gan gynnwys cyfansoddiad gan Edward-Rhys Harry, 'Gweddi' gan Arwel Hughes a arweinir gan Owain Arwel Hughes, a ‘The Shadows of War’ Paul Mealor a arweinir gan y cyfansoddwr ei hun. Daw’r cyngerdd i ben gyda ‘Symphonic Adiemus’ Karl Jenkins a genir gan y pum côr yng nghwmni Sir Karl Jenkins ar ei benblwydd yn 80 oed.

Bydd Gŵyl Cerddoriath Gymreig Llundain yn dathlu traddodiad hir cyfansoddi cerddoriaeth ym mhrifddinas Lloegr gan y rheiny sydd â chysylltiad â Chymru, yn ystod penwythnos flynyddol gyffrous o gyngherddau a chystadlaethau. Syniad gweledigaethol Edward-Rhys Harry, cyfarwyddwr cerddorol Corâl Cymry Llundain yw’r Ŵyl. O’r herwydd, caiff yr Ŵyl ei chynnal a’i churadu gan dîm ymroddedig o aelodau Corâl Cymry Llundain gyda’r Dr Harry fel Cyfarwyddwr Artistig.

Amcanion yr Ŵyl yw:

· Darparu cyfleon perfformio cerddoriaeth gan gyfansoddwyr sydd â chysylltiad â Chymru

· Dathlu hanes, cymuned a traddodiad cerddorol cymuned Cymry Llundain

· Cymryd rhan mewn meithrin artistiaid unigol llawn addewid y dyfodol (lleisiol neu offerynnol)

· Pan fo’n bosib, i gomisiynu cyfansoddiadau newydd gan gyfansoddwyr sydd â chysylltiad â Chymru, ar gyfer perfformiadau première yn Llundain

Prisiau tocynnau yw:

Dydd Gwener £15, £12 (consesiwn)

Dydd Sadwrn £28, £25 (consesiwn)

Tocyn Gŵyl £40, £35 (consesiwn)

Sylwer: caiff disgownt yr Ŵyl ei chyflwyno ar y dudalen dalu pan ddewisir tocynnau ar gyfer y ddau gyngerdd.

Noson y Corau

https://www.ticketsource.co.uk...

Cyngerdd Gala

https://www.ticketsource.co.uk...