Bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Chlwb Rygbi Cymry Llundain yn trefnu cyfres o gemau calendr a digwyddiad sgwrsio anffurfiol i gael y newyddion diweddaraf gydag alumni a ffrindiau ar 22 Chwefror, 2025.
Bydd croeso i wylwyr ddod ynghyd i fwynhau’r gemau yn y bore, ac yna ymuno â chynrychiolwyr o’r Brifysgol a’r clwb, yn y clwb, i wylio gêm Chwe Gwlad Guinness rhwng Cymru ac Iwerddon.
Bydd croeso i chi ymuno â ni ar amser sydd yn gyfleus i chi. Edrychwn ymlaen at eich croesawu ar gyfer diwrnod o hwyl, chwerthin a chyd-atgofion.
9.30yb – 12.30yp - Rygbi dynion 10au
1.20yp - 1.50yp – Cwestiwn ac ateb gyda Gareth Baber, Hyfforddwr Dwbl Olympaidd a Chyfarwyddwr y System Rygbi ym Met Caerdydd
2.15yp – Gêm Cymru V Iwerddon yn y clwb
4.45yp – Gêm Lloegr V Yr Alban yn y clwb
7.00yp – Diwedd y digwyddiad