• Dyddiad
    27th Chwefror 2026 at 10:00yb
  • Man cyfarfod
    Lord’s Cricket Ground
  • Gwesteiwr
    Glamorgan Cricket, Cricket Wales & Welsh Fire
  • Categori
    Chwaraeon

Ymunwch â Welsh Fire, Clwb Criced Morgannwg a Chriced Cymru ar gyfer dathliad unigryw o Wythnos Cymru Llundain 2026 ym Maes Criced eiconig Lord’s.

Mae Clwb Criced Morgannwg a Chriced Cymru wrth eu bodd o fod yn rhan o Wythnos Cymru Llundain am yr ail flwyddyn yn olynol a hoffen nhw eich gwahodd i Faes Criced Lord’s ar gyfer prynhawn o rwydweithio a thrafodaeth ynglŷn â byd Criced Cymru sydd yn datblygu’n gyflym.

Bydd y digwyddiad hwn drwy docyn yn cael ei gyflwyno gan y darlledwr Lauren Jenkins, a bydd yn cynnwys:

  • Cyrraedd a rhwydweithio yn y Pelham Suite trawiadol a fydd yn cynnig golygfeydd ysblennydd o’r maes chwarae eiconig byd eang
  • Trafodaeth banel fore gyfareddol o’r daith o griced ar lawr gwlad i Griced Proffesiynol, gyda mewnwelediadau gan arbenigwyr blaengar
  • Cinio chwaethus gyda golygfeydd trawiadol o’r maes chwarae byd enwog hwn
  • Trafodaeth banel yn canolbwyntio ar ‘Fusnes Masnachfraint Criced’ gan ystyried y byd newydd y mae Criced Cymru’n rhan honno bellach.
  • Gweithgaredd griced unigryw yn addas i bob lefel
  • Taith gyda thywyswr o faes criced hanesyddol Lord’s
  • Bydd y digwyddiad yn darfod gyda diod a rhwydweithio

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i fwynhau hanes traddodiadol criced, a chymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon yn ogystal â rhwydweithio â chydunigolion proffesiynol.

Mae’r tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn brin, felly y cyntaf i’r felin fydd hi. Ewch i: http://bit.ly/4j4T1mA

Agenda:

10yb: Cyrraedd a rhwydweithio, gan gynnwys lluniaeth ysgafn

10:30: Croeso gan Lauren a thrafodaeth banel ar y Daith o Chwarae Criced ar Lawr Gwlad i Griced Proffesiynol gyda Richard Dawson (Prif Hyfforddwr Criced Morgannwg), Aimee Rees (Pennaeth Criced Merched a Menywod, Criced Morgannwg), Mark White (Pennaeth Cyfranogiad, Criced Cymru).

11:30yb: Egwyl a lluniaeth ysgafn

11:45yb: Trafodaeth banel ar ‘Fusnes Masnachfraint Criced’ gyda Vikram Banerjee (Cyfawyddwr Rheoli, The Hundred), Dhiraj Malhotra (CEO, Washington Freedom) & Mark Rhydderch-Roberts (Cadeirydd, Criced Morgannwg) a Chwaraewr Tân Cymru.

12:45yp: Cinio a rwydweithio

13:30: Cyflwyniad i’r gweithgaredd Griced a taith o Faes Criced Lord’s

15:30: Diod a rwydweithio

17:00: Diwedd