Os oes gennych ddiddordeb mewn celf Gymreig gyfoes, mae hwn yn gyfle gwych i chi gwrdd â'r artistiaid, gweld a phrynu peth o'u gwaith!
Yn cael ei gynnal dros ddau ddiwrnod (2il - 3ydd Mawrth), dyma'r unig gyfle yn Llundain yn 2019 i brynu celf Gymreig gwreiddiol gan nifer o artistiaid Cymreig sydd i'w gweld gyda'i gilydd.
Ac, os ydych chi'n artist Cymreig, mae hwn yn gyfle gwych i hyrwyddo eich gwaith i gynulleidfa yn Llundain, gan gynnwys nifer o bobl o Gymru (tua 60,000 yn Llundain!) sy'n caru cael rhywbeth i'w hatgoffa o'u cartref ac i fodloni eu synhwyrau creadigol a diwylliannol Cymreig.
Canolfan Cymry Llundain yw canolbwynt diwylliannol Cymru yn Llundain ac felly mae'n leoliad perffaith i ddigwyddiad o'r fath ac i unrhyw un sydd â diddordeb mewn celf Gymreig.
Bydd unrhyw werthiant yn cael ei gomisiynu'n rhad ac am ddim felly mae'r prynwr yn gwybod bod pob artist yn cael y budd llawn am eu gwaith caled.
Gallwch ddilyn Celf Gymreig ar twitter yma.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.