Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru mai blwyddyn Cymru yn India yw 2024. Daw dathliadau blwyddyn gyfan â’r ddwy wlad at ei gilydd drwy gyfres o ddigwyddiadau, hanesion a gweithgareddau i ddathlu diwylliant, academia, busnes ac arloesedd.
Bydd Blwyddyn Cymru yn India yn lansio drwy anterth gweithgareddau yn digwydd yn gydamserol yn India o gylch Dydd Gŵyl Dewi, gyda digwyddiadau wedi’u cynllunio mewn nifer o ddinasoedd, gan gynnwys Delhi, Mumbai a Bengaluru, yn ogystal ag yn Uchel Gomisiwn India yn Llundain yn ystod Wythnos Cymru Llundain.