• Dyddiad
    5th Mawrth 2021 at 02:00yp
  • Man cyfarfod
    Ar-lein
  • Gwesteiwr
    Finsbury Glover Hering
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Etholiad 2021: Be nesa i Gymru?

Mae'n bleser gan Finsbury Glover Hering gynnal ein hail ddigwyddiad blynyddol yn ystod Wythnos Cymru Llundain, a fydd yn dod ynghyd a rai o ffigurau gwleidyddol blaenllaw'r oes ddatganoli i drafod dyfodol Cymru cyn chweched etholiad y Senedd ym mis Mai.

Dan gadeiryddiaeth Theo Davies-Lewis, bydd y drafodaeth yn amrywio o ddadansoddi effaith Covid a Brexit ar ddatganoli, cynnydd cenedlaetholdeb Cymreig dros y ddeuddeg mis diwethaf, yn ogystal â thrafod meysydd polisi allweddol fel gofal iechyd, yr economi ac addysg. Y panelwyr ar gyfer Etholiad 2021: Beth nesaf i Gymru? fydd:

  • Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones, AS Llafur am Ben-y-bont a chyn Prif Weinidog Cymru
  • Y Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Wigley, cyn arweinydd Plaid Cymru
  • Yr Arglwydd Bourne, cyn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig

Bydd y drafodaeth yn cael ei darlledu'n fyw dros Zoom am 14:00 ar 5ed Mawrth. Mae'n rhad ac am ddim i fynychu ond cofiwch gofrestru trwy'r ddolen ar y dudalen hon. Am ymholiadau pellach, e-bostiwch: theo.davies-lewis@fgh.com