Cynhelir yr Eisteddfod yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain, 10 Mawrth 2018 am 10:00 am.
Os hoffech ragor o wybodaeth ar yr Eisteddfod, ffoniwch Steffan Prys 01678541015 neu anfonwch e-bost i steffanprys@urdd.org
Mae'r cystadlaethau'n agored i unrhyw berson a anwyd yng Nghymru, neu unrhyw un sydd â rhiant a aned yng Nghymru, neu unrhyw berson sy'n byw yng Nghymru yn union cyn yr ŵyl neu unrhyw berson sydd yn gallu siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg. Mae rhaid i'r geiriau a ddefnyddir mewn unrhyw ddarn o waith fod yn Gymraeg.
Cafod pwyllgor ei ffurfio yn Llundain i helpu gyda threfnu'r Eisteddfod. Os oes ddiddordeb gennych i fod yn rhan o'r pwyllgor, cysylltwch â Steffan ar y manylion uchod.