• Dyddiad
    21st Mawrth 2020 at 09:00yb
  • Man cyfarfod
    Eglwys Gymreig Ganol Llundain, 30 Eastcastle Street, Fitzrovia W1W 8DJ
  • Gwesteiwr
    Urdd
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Cystadlu y tu allan i Gymru

Os nad ydych yn byw yng Nghymru ac yn mwynhau cystadlu, cynhelir Eisteddfod ranbarthol yn Llundain bob blwyddyn.

Eisteddfod y tu allan i Gymru

Mae’r Eisteddfod yn agored i unrhyw aelod sy’n byw neu’n cael eu haddysg y tu allan i Gymru yn 2019/20. Rhaid i bob cystadleuwr llwyfan gofrestru cyn 14 Chwefror 2020.

Cynhelir yr Eisteddfod yn Eglwys Gymreig Ganol Llundain ddydd Sadwrn 7 Mawrth 2020. Bydd pob cystadleuydd yn cystadlu ar y llwyfan (neu drwy Skype) gyda’r enillwyr yn cynrychioli’r tu allan i Gymru yn y Genedlaethol!

Os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Eisteddfod cysylltwch â Steffan Prys 01678 541015 neu anfonwch e-bost i steffanprys@urdd.org

Mae’r cystadlaethau’n agored i unrhyw berson a anwyd yng Nghymru, neu unrhyw berson sydd â rhiant a anwyd yng Nghymru, neu unrhyw berson yn byw yng Nghymru yn syth cyn yr ŵyl neu unrhyw berson sy’n gallu siarad yn Gymraeg neu’i hysgrifennu. Mae rhaid i’r geiriau a ddefnyddir mewn unrhyw ddarn fod yn Gymraeg.

Cefnogi’r Eisteddfod?

Ffurfiwyd Pwyllgor hefyd yn Llundain i helpu o ran trefnu’r Eisteddfod. Os hoffech fod yn rhan o’r pwyllgor, cysylltwch â Steffan. (Manylion uchod).