• Dyddiad
    16th Mawrth 2019 at 09:00yb
  • Man cyfarfod
    Eglwys Canolbarth Llundain Cymru, Eastcastle Street
  • Gwesteiwr
    Urdd
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Byw tu allan i Gymru?

Os ydych chi’n byw tu allan i Gymru ac yn hoff o gystadlu, mae Eisteddfod ranbarthol yn cael ei chynnal yn Llundain bob blwyddyn.

Eisteddfod Tu Allan i Gymru

Mae'r Eisteddfod yn agored i unrhyw aelod sydd yn byw neu yn derbyn ei a/haddysg Tu Allan i Gymru. Bydd angen cofrestru i gystadlu cyn 15 Chwefror 2019.

Cynhelir yr Eisteddfod yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain ar ddydd Sadwrn 9 Mawrth 2019 lle bydd yr holl gystadleuwyr yn ymddangos ar y llwyfan (neu dros Skype) a'r enillwyr yn mynd ymlaen i gynrychioli'r ardal yn y Genedlaethol.

Os hoffech ragor o fanylion am yr Eisteddfod, mae croeso i chi gysylltu gyda Steffan Prys: 01678 541 015 neu steffanprys@urdd.org

Ymuno â Phwyllgor Tu Allan i Gymru?

Mae Pwyllgor rhanbarth hefyd wedi ei sefydlu yn Llundain i ymgymryd â’r gwaith o drefnu'r Eisteddfod i gystadleuwyr sy’n byw tu allan i Gymru. Os hoffech fod yn rhan ohono, cysylltwch gyda Steffan ar y manylion uchod.