Ymunwch â Swyddfa’r Comisiynydd, DPO Admiral ac Osborne Clarke ar gyfer trafodaeth graff ar sut mae Diogelu Preifatrwydd a Data wedi ffurfio twf economi data Cymru ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus fel ei gilydd.
Darganfyddwch sut y gall cynnal ymddiriedaeth ynglŷn â data helpu i adeiladu strategaethau data gwych ac annog arloesedd, gan greu cyfleoedd ar gyfer busnesau a gwasanaethau cyhoeddus fel ei gilydd.
Yr hyn a ddysgir:
- Rhan preifatrwydd a data wrth ffurfio strategaethau cwmni ar gyfer economi Cymru sydd yn tyfu
- Pwysigrwydd diogelu preifatrwydd a data wrth gynnal ymddiriedaeth
- Sut y gall diogelu preifatrwydd a data annog arloesedd yn hytrach na’i rwystro
- Cyfleoedd ym marchnad swyddi data Cymru sy’n ehangu, a sut fyddwn yn meithrin symudedd yn y sector honno
- Y dull rheoleiddiol a sut mae’r ICO yn cefnogi arloesedd yng Nghymru
- Y themau a’r pryderon cyffredin y gwyneba cwmnïau Cymreig ynghylch data a rheoleiddio
Oes gennych gwestiwn i ofyn i’r panel? Gwahoddwn y rhai a fydd yn bresennol i gyflwyno’u cwestiynau o flaen llaw erbyn 12 Chwefror






































