Y cynhwysion hanfodol blaenaf ar gyfer twf economaidd yw entrepreneuriaeth ac arloesedd. Hebddyn nhw, bydd economi yn edwino, yn dod yn sglerotig, yn nychu ac yn marw – heb y gallu i gystadlu a’i gyfoedion rhyngwladol ac ymateb i anghenion a grymoedd sydd yn codi.
Ond o ble daw yr asedau anghyffwrdd hyn? Sut allwn greu yr amgylcheddau sydd yn annog ac yn hyfforddi pobl i adnabod cyfleoedd a bod â’r dewrder a’r hyder i fanteisio arnyn nhw? A beth allwn ei ddysgu gan y rhai sydd wedi gwneud hynny?
Yn anffodus ni adnabyddir Cymru fel gwlad sydd ag egni entrepreneuraidd. Yn y maes hwn nid yw’n llwyddo yn ôl llawer o fetrigau, er bod ymdrechion i adfer hynny ac mae yna gynnydd. Er hynny, mae enghreifftiau disglair iawn o’r hyn y gall ei chynhyrchu, o entrepreneurwyr ar flaen y gad o ran eu meysydd priodol y gallwn oll ddysgu cryn dipyn ganddyn nhw.
Yn ystod y drafodaeth banel hon, bydda i’n siarad â rhai o sylfaenwyr mwyaf addawol Cymru am eu teithiau o wireddu’u syniadau o’r papur i reality, gan godi arian a chyllid, rhedeg busnes ffyniannus ar flaen y gad o ran eu sectorau priodol, a sut mae Prydain yn ei gwneud hi’n hawdd neu’n anodd i ddechrau, rhedeg a datblygu’r busnes yn y wlad hon, a sut allai hi wella.
Y panelwyr fydd:
Dr Tom Heenan – Sefydlydd ar y cyd a Phrifweithredwr Gaussion, sydd yn datblygu batrïau a ellir eu gwefru’n gyflymach.
Dr Sioned Fôn Jones – Cyd sefydlydd a COO BoobyBiome, egin fusnes sydd yn datblygu cynhyrchion a ddaw o microbiome llaeth y fron i wella iechyd babanod (2024 Forbes Europe 30 Under 30)
George Smithies – Cyd sefydlydd innDex, cwmni meddalwedd sydd yn symleiddio llifweithiau yn y sector adeiladu (2021 Forbes Europe 30 Under 30 in Manufacturing & Industry)
Gobeithio i’ch gweld yno.
- 18:00 – Drysau’n agor
- 18:30 – Cyfweliad Panel yn dechrau
- 19:30 – Holi ac Ateb
- 19:45 – Diod







































