• Dyddiad
    3rd Mawrth 2022 at 12:00yp
  • Man cyfarfod
    On-line
  • Gwesteiwr
    Blockchain Connected, part of Technology Connected
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Yn rhan o Wythnos Cymru Llundain, mae Blockchain Connected yn falch i gyflwyno 'Creating Resilient Supply Chains With Blockchain'.

Gydag Aelod Cyngor Blockchain Connected, a Chadeirydd a Chydsefydlwr Finboot, Nish Kotecha, wrth y llyw, caiff y brif araith ei thraddodi gan yr awdur a’r siaradwr uchel ei barch, Geoffrey Cann. Mae ei lyfr 'Bits, Bytes, and Barrels: The Digital Transformation of Oil and Gas' yn ddeunydd darllen angenrheidiol gyda nifer o gwmniau olew a nwy sydd yn awyddus i gadw ar flaen y don newid digidol.

Mae cadwyni cyflenwi’n effeithio ar bob un ohonom. Mae gan Blockchain botensial enfawr ym maes cadwyni cyflenwi ac nid yn ddamcaniaethol yn unig. Mae’r ‘use cases’ yma eisoes. Ymunwch â ni am drafodaeth bord gron rithiol yn archwilio ‘use cases’ gwirioneddol ar gyfer technoleg ‘blockchain’ ym maes cadwyni cyflenwi, syniadau ar sut i fynd ymhellach, a’r hyn sydd yn digwydd ar draws y sectorau.

Dyma gyfle i archwilio technoleg ‘blockchain’ a’i defnydd wrth adeiladu cadwyni cyflenwi gwydn, a chysylltu ag eraill sydd â diddordeb yn y maes hwn.

Ymwelwch â thudalen gofrestru ein digwyddiad am y newyddion diweddaraf wrth i ragor o fanylion a siaradwyr gael eu cyflwyno.

Un gymuned, cyfle heb ei derfyn, Blockchain Connected yw’r rhwydwaith i’r diben ar gyfer y gymuned ‘blockchain’ yng Nghymru. Fe’i crëwyd gan ac mae’n ran o’r sefydliad Technology Connected i gynrychioli ac uno’r gymuned ‘blockchain’.