Dosbarth rhyngweithiol llawn hwyl fydd hwn lle cewch ddysgu mwy am ddull coginio Cymreig a holi wrth i ni goginio – dosbarth rhyngweithiol ychydig o bobl a gynhelir gan Nerys Howell.
Cost: £20 y sgrin
Bu Nerys yn gweithio fel Arbenigwr Bwyd a sieff proffesiynol am fwy na 30 o flynyddoedd ac mae newydd gyhoeddi’i hail lyfr – Bwyd Cymru yn ei Dymor, sydd yn dathlu bwyd lleol, tymhorol a chynaliadwy.
Beth am ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda Nerys, gan goginio pryd o fwyd blasus ‘Cytledi cig oen Cymru gyda relish lafwr a briwsion lemwn amheuthun’.
Fe ddysgwch sut i bobi pice ar y maen traddodiadol, sut i goginio cytled cig oen perffaith, yr hyn yw bara lawr a sut orau i’w ddefnyddio.
Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau cyllell amrywiol a mwy am gyfuno blasau.
Bydd angen y canlynol arnoch:
Cytledi cig oen Cymru, briwsion lemwn a relish lafwr:
8 cytled cig oen Cymru wedi’i hollti
1 dyrnaid mawr o fintys ir
1 dyrnaid mawr o bersli ir
1 ewin garlleg, wedi’i wasgu
1 llwy bwdin o gaprys
6 gercin bach
3 llwy fwrdd o olew olewydd
croen 2 lemwn a sudd 1 lemwn
2 lwy fwrdd o fara lawr
4 llwy fwrdd o freision bara
1 llwy fwrdd o olew
15 g stwnsh menyn
500g seleriac
500g tatws ar gyfer eu pwtsio
menyn
1 sypyn o shibwns
garlleg
Pice ar y maen:
225g Fflŵr sy’n codi’i hunan
pinsiad o halen
1 llwy de o sbeis cymysg
100g menyn neu farjarîn
75g siwgr mân
75g ffrwythau wedi’u sychu (cwrens, syltanas, resins, llugaeron) neu tsips siolcled
1 wy mawr wedi’i faeddu
1 lemwn neu oren
Offer:
1 padell ffrio fawr ac 1 llai
bwrdd torri a chyllyll miniog
bowlenni cymysgu
sosban gyda chlawr
gratiwr lemwn
gwasgwr lemwn
potsiwr tato
pin rolio
torrwr toes
sosban ffrio drom neu radell haearn bwrw
Byddai’n arbed amser petaech yn pwyso’r holl gynhwysion cyn y dosbarth.