• Dyddiad
    16th Chwefror 2023 at 07:30yp
  • Man cyfarfod
    Westminster Cathedral, Victoria Street, London SW1P 1LT
  • Gwesteiwr
    London Welsh Male voice choir
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Cyngerdd elusennol yn cefnogi ‘Friends of the Holy Land’ yn cynnwys Côr Meibion Cymry Llundain gyda The Priests, grŵp o dri offeiriad o Ogledd Iwerddon.

Beth am gychwyn 2023 gyda pheth llawenydd, cewch wared ag iselder ysbryd y gaeaf gyda phrofiad cerddorol prin – noson fendigedig o ganu a difyrrwch penigamp yng nghwmni Côr Meibion Cymry Llundain yn cael ei gefnogi gan The Priests. Anrhydedd mawr yw cael cynnal y cyngerdd hwn yng Nghadeirlan San Steffan, Llundain; man cysegredig yn enwog am ei acwsteg gwych.

Mae Côr Meibion Cymry Llundain wedi canu yn nifer o eglwysi gadeiriol a neuaddau cyngerdd mwyaf mawreddog Prydain, wedi perfformio ddwywaith yn y Royal Variety Command Performance ac wedi recordio gyda Charlotte Church, Aled Jones a Bryn Terfel.

Grŵp cerddorol clasurol yw The Priests, tri offeiriad Gatholig Rufeinig o Esgobaeth Down a Connor yng Ngogledd Iwerddon. Dau frawd, Fr. Eugene a Fr. Martin O'Hagan wedi’u hymuno gan Fr. David Delargy. Bu’r triawd yn canu gyda’i gilydd ers iddynt fyw gyda’i gilydd fel myfyrwyr yn y 70au yng Ngholeg St MacNissi's, Garron Tower, County Antrim, ac maen nhw wedi cael yr anrhydedd anarferol o gael recordio yn St. Peter's Basilica, Rhufain.