Beth am ddod i’n gweld yn ymarfer ddydd Mercher 22 Chwefror o 19.00-21.00 – efallai y cewch chi hi’n anodd i beidio ymuno â ni!
Croeso cynnes i bawb – bydd ein repertoire yn Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd, ond nid oes rhaid i chi fod yn Gymro Cymraeg i ymuno. Rydym wedi croesawu i’n plith nifer o unigolion sydd â chysylltiadau Cymreig a rheiny sydd heb unrhyw gysylltiad heblaw am ddiddordeb mewn canu corawl Cymreig a’r cyfeillgarwch mae’n ennyn.
Rydym wedi canu mewn nifer o ddigwyddiadau mawreddog, gan gynnwys y Gemau Olympaidd, a thramor.
Er nad yw’n hanfodol byddai o gymorth gwybod o flaen llaw os ydych yn bwriadu bod yn bresennol. Gwnewch hynny yn gwaliachoir@gmail.com