Byw yn Llundain, yn mwynhau canu ac yn siarad Cymraeg?
Ymunwch â ni – yr unig gôr cyfrwng Cymraeg yn y ddinas – bob nos Lun am 7yh yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain, Eastcastle St.
Fe enillom y wobr gyntaf yn y Côr Cymysg (20+ mewn nifer) yn 2023 yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan. Ry’n ni wedi canu ar hyd a lled Prydain, o bencadlys Google yn Llundain, i Stadiwm Principality Caerdydd, i’r Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon… ac i rif 10 Downing St!
Croeso i bawb!
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch corllundain@gmail.com, neu dilynwch ni ar FB ac Instagram.
#CymryLlundain






































