• Dyddiad
    28th Chwefror 2019 at 06:00yp
  • Man cyfarfod
    Central London / Westminster - TBC
  • Gwesteiwr
    IoD, CBI, BCC, FSB
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Pa mor aml y cewch chi’r cyfle o weld arweinyddion pob un o bedwar sefydliad busnes blaenllaw’r DU gyda’i gilydd ar yr un panel . . . ?

Prin iawn.

Dyma felly ddigwyddiad arbennig i Wythnos Cymru yn Llundain a chyfle unigryw i glywed oddi wrth arweinyddion y pedwar sefydliad busnes mwyaf blaenllaw:

- Josh Hardie, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI)

- Adam Marshall, Siambrau Masnach Prydain (BCC)

- Charlotte Valeur, Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD)

- Mike Cherry OBE, Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB)

Yn cael ei gynnal yn yr Old Bailey eiconig, bydd yn ddigwyddiad 'Question Time' amserol a dymunol gyda Golygydd Busnes y Western Mail (Media Wales), Sion Barry, wrth y llyw.

Dyma’ch cyfle i glywed penaethiaid cyrff busnes blaenllaw'r DU yn rhannu’u safbwyntiau ac yn trafod materion sy’n effeithio ar Gymru a’r DU - dim ond mis cyn terfyn amser Brexit!

I neilltuo’ch lle, dilynwch y ddolen a ddarparwyd - argymhellir i chi neilltuo’ch lle yn brydlon gan fod y niferoedd yn gyfyngedig a bydd galw mawr ar gyfer achlysur arbennig o’r fath.

Amserlen – cyrraedd am 6.00pm a chael diod / canapés ar gyfer dechrau am 6.30pm – trafodaeth banel a C&A yn gorffen am 8.00pm, ac yna rhwydweithio, etc.

Pris tocyn £25 + TAW