• Dyddiad
    27th Chwefror 2019 at 08:30yb
  • Man cyfarfod
    Welsh Government Offices, 25 Victoria Street SW1H 0EX
  • Gwesteiwr
    Welsh Language Commissioner
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Ymunwch â Chomisiynydd y Gymraeg i glywed sut gall y Gymraeg fod o fudd i'ch busnes, a hynny dros frecwast ar drothwy Dydd Gwyl Dewi. Mae 86% yn teimlo bod yr iaith Gymraeg yn rhywbeth i fod yn falch ohoni. Mae'n iaith fyw, a gall ychwanegu gwerth i'ch busnes chi, a chreu cyswllt gwell gyda'ch cwsmeriaid a'r gymuned.

Bydd Guto Harri, cyn newyddiadurwr gyda'r BBC, a Chyfarwyddwr Materion Allanol Maer Llundain yn rhannu ei brofiadau personol a phroffesiynol o werth y Gymraeg.

Mae'r digwyddiad ar gyfer penaethiaid sydd â chyfrifoldeb dros weithredu yng Nghymru, yn ogystal â chysylltiadau cyhoeddus.

Ateb erbyn 20 Chwefror i hybu@comisiynyddygymraeg.cymrugan nodi unrhyw anghenion dietegol ac os ydych eisiau defnyddio cyfieithu ar y pryd os gwelwch yn dda.