Digwyddiad arbennig yn cyfuno Gwasanaeth Undeb Dydd Gŵyl Dewi’r ECYL i ddathlu penblwydd Capel Cymreig y Boro yn 150 oed eleni.
Yn cael ei gynnal ar y Sul agosaf i ddyddiad y gwasanaeth cyntaf oll yn adeilad presennol y Capel 150 o flynyddoedd yn ôl, bydd emynau cynulleidfaol gwych, ynghyd â chorau, gan gynnwys Côr y Boro, a darlleniadau. Yna, lluniaeth ysgafn.
Croeso i bawb!