• Dyddiad
    19th Chwefror 2026 at 6:30yp
  • Man cyfarfod
    InterContinental London, One Hamilton Place, Park Lane W1J 7QY
  • Gwesteiwr
    Wales Week London
  • Categori
    Adloniant a Chymdeithasol

Ymunwch â ni ar gyfer noson wirioneddol arbennig wrth i ni ddod ynghyd i ddathlu 10 mlynedd o Wythnos Cymru Llundain gyda Noson Gala ddisglair o’r Gorau o Gymru — dathliad anghofiadwy o ddiwylliant, cerddoriaeth, chwaraeon a chomedi Cymreig.

Yn digwydd ddydd Iau 19 Chwefror 2026 yng Ngwesty eiconig yr InterContinental, Park Lane, bydd y Noson Gala garreg filltir hon yn greiddiol i’n rhaglen o ddathlu’n penblwydd yn ddeng oed ac mae’n addo bod yn deyrnged ddilys i ddegawd o rialtwch Cymreig yn y ddinas.

Bydd gwesteion yn mwynhau noson ysblennydd o ddifyrrwch, a arweinir gan ein gwesteiwr Lauren Jenkins, gyda rhaglen a fydd yn adlewyrchu ehangder Cymru fodern yn berffaith.Bydd y noson yn cynnwys y digrifwr o Gymru, Ignacio Lopez, sesiwn fyw o Holi ac Ateb gydag Only Men Aloud, a set DJ yn hwyr yn y nos gan y DJ o Gymro sydd yn enwog yn rhyngwladol, Katie Owen, a fydd yn cadw’r rhialtwch tan oriau mân y bore.

Gobeithio yn fawr y byddwch yn dymuno fod yn rhan o’r noson arbennig hon – i neilltuo’ch byrddau cyn gynted â phosib, cysylltwch ag events@engagesport.com

  • Byrddau Aur (10 gwestai) £2,495 + TAW, gan gynnwys derbyniad gyda diodydd, pryd o fwyd tri chwrs a choffi, a hanner potel o win y person
  • Byrddau Platinwm (12 gwestai) £3,495 + TAW, gan gynnwys derbyniad gyda diodydd, dwy botelaid o siampên ar y bwrdd, bwrdd wedi’i leoli’n fanteisiol i westeion, hanner botel o win y person, pryd o fwyd tri chwrs a choffi, a hysbyseb tudalen gyfan yn y llyfryn digwyddiad

Noddir y Noson Gala eleni gan Bute Energy, Phillips Wellbeing, Browne Jacobson, Ethos Chain Consultancy a Phorthladd Aberdaugleddau. Cinio codi nawdd ydyw i gefnogi Gofal Hosbis Dewi Sant ac Ymddiriedaeth y Dyn Gwyrdd

Neilltuwch eich lle yn awr i osgoi siom – edrychwn ymlaen yn eiddgar i’ch gweld!