• Dyddiad
    4th Mawrth 2021 at 06:00yp
  • Man cyfarfod
    Ar-lein
  • Gwesteiwr
    BAFTA Cymru
  • Categori
    Adloniant a Chymdeithasol

Fflam yw’r ddrama amlieithog gyntaf wedi’i chomisiynu gan S4C.

Wedi ei chynhyrchu gan Vox Pictures (Un Bore Mercher / Keeping Faith), dyma gyfres gyfoes sy’n ymdrin ag angerdd a galar wrth godi’r cwestiwn a yw’n hawdd cynnau tân ar hen aelwyd.

Ymunwch â ni mewn sesiwn holi ac ateb gydag ymarferwyr y ddrama i gael mewnwelediad i’r crefft o gynhyrchu Fflam a heriau ffilmio yn ystod Covid-19.

Cadeirir y sesiwn gan Gadeirydd BAFTA Cymru, Angharad Mair, a bydd siaradwyr yn cynnwys cast, criw a Chomisiynydd Drama S4C, Gwenllian Gravelle.

Gwyliwch y ddrama hyd yma ar:

S4C Clic https://www.s4c.cymru/clic/programme/811054002

BBC iPlayer https://www.bbc.co.uk/iplayer/episodes/p095bwxm/fflam

Bydd cyfieithiad Saesneg ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn.

Gyda diolch i S4C.