• Dyddiad
    5th Mawrth 2024 at 10:00yb
  • Man cyfarfod
    The Orchard at x+why, 1 Great Cumberland Place, London W1H 7AL
  • Gwesteiwr
    Millrace Marketing
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

I nodi Wythnos Cymru Llundain a dechreuad Mis Corfforaethau B fel ei gilydd, mae Millrace Marketing, mewn partneriaeth â B Local Wales a B Lab UK, yn cynnal Arddangosfa Corfforaethau B Cymreig.

Mae 36 o fusnesau Cymreig wedi llwyddo i lywio proses gynhwysfawr a manwl Tystysgrifo Corfforaethau B i fodloni safonau uchel cynaladwyedd cymdeithasol, ariannol ac amgylcheddol.

Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gan B Lab UK ochr yn ochr â thrawsdoriad o Gorfforaethau B Cymreig.

Bydd cyfle hefyd i samplo cynhyrchion ceinaf Corfforaethau B Cymreig.

Caiff y rhai a fydd yn bresennol y cyfle i rwydweithio’n uniongyrchol â sefydlwyr ac uwch aelodau staff, gan elwa ar fewnweledigaethau i’w hanesion, profiadau a heriau gwahanol.

Nod y digwyddiad yw annog gweithio ar y cyd, ysbrydoli partneriaethau newydd a rhoi sylw ar ymroddiad busnesau Cymreig a yrrir gan werth.

Agenda:

10.00yb - Cyrraedd

10:30yb – Croeso a Chyflwyno

10:45yb – Panel Corfforaethau B Cymreig

11:30yb – Amser Rhwydweithio

12:30yp - Gorffen