• Dyddiad
    29th Chwefror 2024 at 03:00yp
  • Man cyfarfod
    Otherworld, 85 Buckingham Palace Road, London SW1W 0QJ
  • Gwesteiwr
    Menter a Busnes
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Ymunwch â ni am brofiad rhwydweithio unigryw i entrepreneuriaid Cymreig yn Llundain yn ystod Wythnos Cymru Llundain.

Dychmygwch ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol o'r un anian ym mharadwys rithiol OTHERWORLD, wrth wrando ar siaradwyr gwadd ysbrydoledig a mwynhau lluniaeth blasus.

Mae’r digwyddiad hwn yn llwyfan perffaith i archwilio cyfleoedd, adeiladu cysylltiadau ystyrlon, a hyd yn oed ystyried dychwelyd i’ch gwreiddiau Cymreig.

Mae ein panel siaradwyr yn llawn o bobl profiadol a gwybodus sy’n arwain y ffordd yn eu meusydd:

Elin Mai: Mae gan Elin dros 20 mlynedd o arbenigedd mewn manwerthu moethus, datblygu busnes byd-eang, a phartneriaethau brand!

Gav Murphy: Mae ei waith wedi ymddanos ar IGN, BBC a Mashable ac yn gyd-sylfaenydd 'RKG Video'!

Kate Jefferyes: Yn arwain tîm Microsoft ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd, mae Kate yn hyrwyddwr llythrennedd digidol ac yn gweld 'Generative AI' fel arf allweddol.

Dafydd Loughran: Gynt yn llawfeddyg, Dafydd yw sylfaenydd a Phrif Weithredwr Concentric Health - cwmni sy'n gyfrifol am drawsnewid gofal cleifion.

Sicrhewch eich lle heddiw!