Fel rhan o Wythnos Cymru yn Llundain, pleser yw gwahodd menywod proffesiynol Cymreig i ginio dathlu a rhwydweithio yn lle bwyta rhyfeddol y cogydd Cymreig, Tom Simmons.
Mae’n addo bod yn ginio ardderchog a phrynhawn o rwydweithio gyda menywod Cymreig eraill, a’u canolfan yn Llundain neu sy’n gweithio’n rheolaidd yn Llundain. Beth sy’n fwy perffaith, bwyd gwych, cwmni da a chyfle i ddysgu am eich cydweithwyr a dod o hyd i ffyrdd i gefnogi’ch hunain. Eleni byddwn yn llenwi lle bwyta Tom.
Achlysur gwych i ddathlu bod yn fenywod proffesiynol Cymreig yn Llundain! Ac yn ogystal, i nifer ohonom, y cyfle i siarad Cymraeg wrth rwydweithio yn Llundain!
Rebecca Jones bydd eich gwestai.
Cwrdd am Prosecco, canapés a rhwydweithio, yna cinio thema Gymreig wedi’i baratoi’n grefftus gan Tom Simmons a’i dîm.
Nid digwyddiad i wneud elw yw hwn, ond digwyddiad fel rhan o Wythnos Cymru yn Llundain, caiff unrhyw elw a wneir ei roi i’r elusen eleni Felindre – Canolfan Cancr yng Nghymru
Allech chi ychwanegu at y digwyddiad? Caiff digwyddiadau Wythnos Cymru yn Llundain o’r fath eu rhedeg gan wirfoddolwyr a rhedir nhw fel digwyddiadau nad ydynt yn gwneud elw.
Rwy’n edrych am noddwr a rhywun i gynnal y croeso diod, os gallwch helpu, cysylltwch â rebecca@rebeccajones.biz neu ffoniwch 07971 626699 neu cliciwch fan hyn.
Mae gennyf hefyd 4 lle ar gyfer noddwyr y prif ddigwyddiad, am fwy o fanylion cliciwch fan hyn. Un wedi’i werthu eisoes.
Mae rhai llefydd eisoes wedi'u neilltuo wrth ysgrifennu hwn - felly byddwch yn gyflym i archebu'ch lle!