Ym 1973 anfonodd Mal Pope, pan yn ddisgybl yn yr ysgol, dâp o’i ganeuon i John Peel Radio 1.
Canlyniad hynny oedd i Mal arwyddo i Rocket Records Elton John.
I ddathlu’i Jiwbilî Aur, daw Mal â’i sioe un-dyn i Lundain, gyda noson yn llawn o ganeuon a hanesion syfrdanol . . . o drechu Elton John yn y gêm bêl-droed Subbuteo, i fod yn gyfaill i’r dyn a wahoddodd Dr Martin Luther King Jr i Memphis ym 1968, ac wrth gwrs i ganu Fireman Sam!!!