Noson gydag Opera Cenedlaethol Cymru
Nos Fercher 11 Mawrth
Pleser mawr yw bod Opera Cenedlaethol Cymru eto yn ymuno â Mosimann am yr hyn sydd wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol mwyaf poblogaidd a ddisgwylir yn daer amdano.
Pleser yw cyflwyno Anna Harvey, soprano mezzo Brydeinig blaenllaw a chyffrous iawn sydd wedi mwynhau llwyddiant yn y DU ac yn Ewrop, yn enwedig yn Deutsche Oper am Rhein, lle mae’n aelod o’r ensemble solo. Mae Anna yn ddatgeiniad brwdfrydig ac yn berfformwraig reolaidd ar lwyfan cyngerdd.
Anna oedd Artist Cyswllt y WNO yn 2017/18 a’i pherfformiad cyntaf gyda’r WNO oedd fel Tywysog Orlofsky yn Die Fledermaus yn 2017. Yn ystod tymor y Gwanwyn yn 2020 bydd Anna yn dychwelyd i’r WNO i berfformio fel Cherubino yn The Marriage of Figaro Mozart a fydd yn teithio o amgylch y DU.
Ymunwch ag Anna a’r WNO am noson o unawdau a chaneuon a ffefrynnau enwog yn ogystal â chinio pedwar cwrs gyda gwinoedd.
£145 y person (yn cynnwys rhodd o £35 i’r WNO) / Clwb Mosimann / 7:30pm ar gyfer 8:00pm