• Dyddiad
    29th Chwefror 2024 at 06:00yp
  • Man cyfarfod
    Saatchi & Saatchi, 40 Chancery Lane, London WC2A 1JA
  • Gwesteiwr
    Goodwash
  • Categori
    Chwaraeon

Yr Antarctic Fire Angels, diffoddwyr tân Cymreig, Georgina Gilbert a Rebecca Openshaw-Rowe yn sgwrsio â chyflwynwraig y BBC, Dot Davies.

Yn cael eu hymuno gan Sefydlydd Goodwash, Mandy Powell.

Yn ystod y ddwy flynedd a aeth heibio bu Goodwash yn falch ofnadwy i helpu’r Antarctic Fire Angels ar eu ffordd i Begwn y De.

Alldaith hanesyddol gan ddwy Ddiffoddwr Tân Cymreig, Georgina Gilbert a Rebecca Openshaw Rowe, y nod yw nid yn unig codi arian i Elusen y Diffoddwyr Tân ond hefyd i godi disgwyliadau o’r hyn y gall menywod a merched cyffredin eu cyflawni.

Ac o’r diwedd, ar ôl paratoi am ddwy flynedd, cychwynodd y ddwy ar 21 Tachwedd o’u gwersyll cyntaf yng Ngorllewin Antarctica ar eu taith i’r Pegwn, taith o rywbeth fel 1,230 o gilometrau. Heb gymorth, gwnaethon nhw deithio ar sgïau, gan dynnu slediau cyflenwi, pob un yn pwyso 85 cilo, ar lwybr na gyflawnid erioed o’r blaen.

Ac er ei bod yn haf yn Antarctica roedd y tymheredd oddeutu -11C a gallai ddisgyn i -50C ar y daith 50 diwrnod blinderus.

Symbylwyd Georgina a Rebecca ill dwy, yn ogystal â chriw cyfan y Fire Angels, gan gred na allai menywod na merched fod yr hyn na allen nhw ei weld. Roedd llwyddo i fod yn ddiffoddwyr tân yn y lle cyntaf yn brawf o’r athroniaeth hon ond cymerodd yr alldaith hyn i lefel hollol newydd – dim ond 30 o flynyddoedd ers i’r fenyw gyntaf mewn hanes gyrraedd y Pegwn.

Gallwch ganfod am yr alldaith a’r Antarctic Fire Angles fan’ma, ac am Elusen y Diffoddwyr Tân y maen nhw’n ei chefnogi fan’ma.

Rydym mor falch i gefnogi’r Antarctic Fire Angels ond gallwch chi wneud gwahaniaeth achos dim ond pan fyddwch yn ymolchi eich hun gyda Goodwash y gallwn wneud hynny.