• Dyddiad
    24th Chwefror 2026 at 5:45yp
  • Man cyfarfod
    PwC More London
  • Gwesteiwr
    Llenyddiaeth Cymru | Literature Wales
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Dydd Mawrth 24 Chwefror 2026

PwC More London: 7 More London Riverside, SE1 2RT

5:45 - 7:30pm

Wrth i ddeallusrwydd artiffisial ddechrau ysgrifennu ei farddoniaeth ei hun, beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer dyfodol ysgrifennu creadigol? Dyma ddigwyddiad sy'n rhan o Wythnos Cymru Llundain a fydd yn peri inni feddwl. Bydd Menna Elfyn (bardd a thrysor cenedlaethol) yn cyflwyno comisiwn newydd, wedi’i ysgrifennu ar y cyd â ChatGPT, sy’n archwilio’r ffiniau rhwng deallusrwydd dynol ac artiffisial. Yna, bydd panel o arbenigwyr yn trafod goblygiadau creadigol, diwylliannol a moesegol llenyddiaeth a gynhyrchir gan AI. A all peiriannau fod yn wirioneddol farddonol? Beth yw ystyr awduriaeth yn oes algorithmau? A sut y gallai’r newid hwn effeithio ar yrfaoedd awduron ac ar enaid barddoniaeth ei hun?

Ymunwch â ni am ddarlleniad byw, trafodaeth fywiog, a golwg ar y berthynas sy’n esblygu rhwng technoleg a’r celfyddydau.

Cynhyrchir y digwyddiad hwn gan Llenyddiaeth Cymru | Literature Wales mewn partneriaeth â PwC, gyda chefnogaeth Wythnos Cymru Llundain. Darperir diodydd a lluniaeth ysgafn