• Dyddiad
    1st Mawrth 2022 at 08:30yb
  • Man cyfarfod
    Ar-lien
  • Gwesteiwr
    ACCA Cymru
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Brecwast Busnes Dydd Gŵyl Dewi ACCA Cymru Wales

Dydd Mawrth 1 Mawrth 2022 8.30yb - 9.30yb

Noddir gan Menzies a Phrifysgol De Cymru

ACCA (Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig) yw'r corff byd-eang ar gyfer cyfrifwyr proffesiynol.

Mae ACCA Cymru Wales yn trefnu rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer ei haelodau a'r gymuned fusnes ehangach. Brecwast Busnes Dydd Gŵyl Dewi yw’r digwyddiad blaenllaw ar gyfer ACCA yng Nghymru, a bydd digwyddiad 2022 yn cael ei gynnal yn rhithiol.

Mae’r digwyddiad yn agored i bawb ac rydym yn eich annog i ymuno â ni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a busnes Cymreig. Bydd cyfle i rwydweithio ar-lein ar ôl i'r digwyddiad ffurfiol ddod i ben.

I ARCHEBU:

Bydd y digwyddiad yn agored i bawb gyda lle am ddim neu opsiwn pecynnau taledig:

Opsiwn 1 – Archebwch ar gyfer eich Pecyn Sypreis Dewi Sant: yn cynnwys danfoniad o gynnyrch Cymreig blasus i’w fwynhau yn ystod y digwyddiad a chyfraniad o £5 i Apêl Cennin Pedr Marie Curie - Cost £15 (preswylwyr y DU yn unig)

Opsiwn 2 – I’r rhai sy’n dymuno anfon syrpreis Dydd Gwyl Dewi at eu gwesteion archebwch bwndel o bum pecyn syrpreis – Cost £75 (preswylwyr y DU yn unig)

Opsiwn 3 – Archebwch eich lle am ddim i ymuno â’r digwyddiad yma.