• Dyddiad
    7th Mawrth 2026 at 6:00yp
  • Man cyfarfod
    The London Welsh Centre, 157–163 Grays Inn Road, London. WC1X 8UE
  • Gwesteiwr
    Radio Wigwam In association with The London Welsh Centre and Brains Brewery
  • Categori
    Adloniant a Chymdeithasol

Wrth i’r llenni gwympo ar ddiwedd Wythnos Cymru Llundain 2026, i ddod â chalendr cyforiog o weithgareddau i’w derfyn, bydd Radio Wigwam yn falch i gynnal dathliad egnïol o gerddoriaeth, cwrw a bwyd Cymreig yng Nghanolfan Cymry Llundain. Wedi’i drefnu gan Radio Wigwam, bydd y noson yn arddangos cerddoriaeth Gymreig ragorol gyfoes, yn cynnwys tri artist arobryn o gymuned Radio Wigwam:

  • Lower Forces – Yn Ail, Cân orau 2025 (Gwobrau Blynyddol Radio Wigwam)
  • Caitlin Lavagna – Cyn Artist Solo Benywaidd Gorau (Gwobrau Blynyddol Radio Wigwam)
  • Matt Kiano – Cyn Artist Solo Gwrywaidd Gorau (Gwobrau Blynyddol Radio Wigwam)

Caiff sŵn ei ddarparu gan Dean Nelson, gan gyflenwi profiad byw uchel ei ansawdd trwy gydol y noson.

Cwrw a Bwyd Cymreig

Bydd Brains Brewery ar y cyd â Radio Wigwam yn cynnal noson, lle byddan nhw’n cymryd drosodd yn gyflawn far Canol Cymry Llundain – y man cyfarfod cyntaf i gynnwys ei brand newydd – ochr yn ochr a blasu cwrw, nwyddau a rhoddion.

Darperir y bwyd Cymreig gan Donald’s Pies, gan weini bwyd twym drwy gydol y noson.

Rhwng y perfformiadau, bydd Radio Wigwam yn cadw’r awyrgylch gyfareddol yn fyw gyda ffilmiau byr yn dathlu miwsig Cymreig, cystadlaethau byw a nwyddau am ddim, yn ogystal â ffilm o bodlediad byw yn cynnwys yr artistiaid ochr yn ochr â chynrychiolwyr o Radio Wigwam, Bragdy Brains, Canolfan Cymry Llundain ac Wythnos Cymru Llundain.

Dyma’r ffordd berffaith i orffen Wythnos Cymru Llundain 2026, ein 10fed blwyddyn, yn dathlu diwylliant, creadigrwydd, bwyd, diod a chymuned Gymreig ar draws y ddinas.