• Dyddiad
    22nd Chwefror 2022 at 07:30yp
  • Man cyfarfod
    London Welsh Centre, 157 – 163, Grays Inn Road WC1X 8UE
  • Gwesteiwr
    London Welsh Centre
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Mae Guy Masterson (A Christmas Carol & A Child’s Christmas In Wales) yn dychwelyd i Ganolfan Cymry Llundain i ddathlu Wythnos Cymru Llundain 2022 gyda chyfleadau unigryw o weithiau mwy anadnabyddus Dylan Thomas – tair stori fer fendigedig a detholiad o’i benillion ceinaf.

Wedi’i ysbrydoli i ddarllen Dylan Thomas gan ei hen ewythr, Richard Burton, rhoddodd Masterson y ffidil yn y tô gyda’i fiocemeg i ddod yn actor ym 1985!

Fel ei ewythr, cydnabyddir ef heddiw fel un o berfformwyr ceinaf y byd o ran Dylan Thomas a bu’n perfformio’i waith dros y byd penbaladr.

Dewch i fwynhau dawn arbennig Dylan Thomas yn cael ei berfformio gan faestro’i eiriau.