Wedi perfformio mewn gig yn Llundain ym mis Tachwedd 2024 lle gwerthwyd yr holl docynnau, bydd Katell Keineg yn perfformio eto yn yr un man ar Fawrth 1af, Dydd Gŵyl Dewi 2025. Bydd The Marcellas o Ferthyr Tudfil yn westeion arbennig.
Cafodd caneuon Katell eu cynnwys gan Natalie Merchant a Gabriel Rios. Gorffenodd recordio’i 5ed albwm yn ddiweddar ar ôl ysgrifennu ar gyfer y theatr yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Dros y blynyddoedd, bu Katell yn teithio ledled Ewrop a Gogledd America, gan berfformio yn ei gigs ei hunan, gigs gyda’r holl docynnau wedi’u gwerthu, yn ogystal â mewn gwyliau cerddorol megis Glastonbury, Green Man, Reading, Roskilde, SXSW, a WOMAD. Perfformiodd mewn sawl cyngerdd gyda Jeff Buckley, ac mae wedi ymddangos yn Carnegie Hall gydag Allen Ginsberg, Philip Glass a David Byrne ac yn yr Albert Hall gyda Natalie Merchant.
Rolling Stone - “There’s a theory that certain musical frequencies affect people emotionally. Katell Keineg has found them. It’s damn near impossible to listen to her earthy and ethereal voice without feeling the spirit move you. Her shy, allusive songs combine the world weary romanticism of Leonard Cohen with Tim Buckley’s slurred incantations”
The New York Times - “Katell Keineg has a voice so charged with feeling that it lifts everything she sings to the level of a primal wail”
NME - “The arrangement of the song (Mama, You’ve Been On My Mind), leaves everybody in bits. There’s no instruments involved, which is something Sinead (O’ Connor) has done in the past, but now she’s got Katell Keineg singing in a heavenly counterpoint – exotic and sad like nothing I’ve heard before.”
LA Times - “Conveying a nearly beatific sense of joy in performance”
