• Dyddiad
    2nd Mawrth 2021 at 01:00yp
  • Man cyfarfod
    Ar-lein
  • Gwesteiwr
    Women in PR Cymru
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Women in PR Cymru

Rydym yn falch i ymuno ar y cyd â Global Women in PR i gynnal y weminar hon i Wythnos Cymru Llundain – pennod gyntaf ein Cyfres Arweinyddiaeth Gwanwyn 2021.

Mae COVID-19 wedi’n gorfodi i aros dan do ac adeiladu waliau diogelu o amgylch ein haelwydydd. Yn ffodus, mae cysylltu ar-lein wedi’n galluogi i ddod â’r byd i mewn.

Trwy lwyfannau fel Teams a Zoom, rydym wedi llwyddo i barhau i gysylltu â theulu, ffrindiau a chydweithwyr – ac rydym wedi meithrin cymunedau, newydd a hen fel ei gilydd.

Felly, beth a olyga hyn i ni ôl byd COVID-19? Sut fydd yn llywio’r ffordd yr ydym yn cysylltu a chyfathrebu? A sut allwn harneisio’r cyfleoedd yn bellach – i adeiladu llwyfan mwy i Gymru, ein diwydiant, a ni’n hunain?

Ymunwch â ni, a phanel rhyngwladol o westeion, i archwilio grym rhwydweithiau a’r potensial cyffrous ar flaenau’n bysedd ar gyfer adeiladu cysylltiadau byd-eang, dyfnach a mwy ystyrlon.

Mae Global Women in PR (GWPR) yn cysylltu ag ac yn cefnogi menywod o bedwar ban y byd sydd yn gweithio yn y diwydiant PR. Ar hyn o bryd mae ganddo grwpiau ledled Ewrop, India, Rwsia, Mecsico, y Dwyrain Canol ac Affrica ac mae’n gyflym yn datblygu grwpiau yn yr UD, Asia Pasiffig, a De Affrica.

Y panel:

Susan Hardwick yw sefydlydd ar y cyd GWPR ac ymgynghorydd cyfathrebu profiadol iawn. Bu’n gyfarwyddwr bwrdd yn un o ymgyngoriaethau PR blaenllaw’r DU, pennaeth cyfathrebu i gadwyn manwerthu fawr ac mae wedi rhedeg ei busnes ei hun yn datblygu rhaglennu cyfathrebu byd-eang i ddefnyddwyr a chleientiaid busnes i fusnes fel ei gilydd. Yn gynghorydd profiadol ar ddatblygu brand a rheoli materion, mae Susan wedi trin portffolio eang o gleientiaid y DU a rhyngwladol, o gwmnïau FTSE 100 i ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol blaenllaw.

Cornelia Kunze yw Cadeirydd Bwrdd Rhyngwladol Global Women in PR a Llywydd GWPR yr Almaen. Hi yw Sefydlydd a chydberchennog i-sekai, ymgynghoriaeth bwtîc ryngwladol a’i chanolfan yn Munich a Berlin. Bu Cornelia yn rheng flaen cyfathrebu byd-eang am fwy na 30 o flynyddoedd a bu’n eiriolwr cryf dros fenywod i gymryd rolau arweinyddiaeth. Mae wedi gweithio ledled Ewrop, Asia a’r UD fel strategydd brand, cyfathrebwr mewnol ac uwch weithredwr asiantaeth. Cafodd rolau cleient, ymarfer a gweithredol arweiniol wrth weithio yn Edelman ac fe lywiodd ymgyrchoedd i nifer o frandiau aml-genedlaethol pencadlysoedd ledled y byd.

Rachel Dunn – yn rhedeg rhwydwaith GWPR yn y Dwyrain Canol ac mae’n Ddirprwy Reolwr Gyfarwyddwr yn Weber Shandwick yn Dubai, gyda 18 o flynyddoedd o brofiad yn y DU a rhanbarth MENA. Ar ôl symud i’r Dwyrain Canol yn 2008 i fod wrth lyw’r ymarfer Corporate & Consumer, mae Rachel bellach yn darparu uwch gwnsela strategol, hyfforddiant a chyfeiriad rhaglenni i gleientiaid allweddol yr asiantaeth. Cyn ymuno â Weber Shandwick, Llundain oedd canolfan Rachel am naw blynedd yn asiantaeth hysbysebu HHCL & Partners, yn ogystal â siopau bwtîc PR Killa Communications a Brave PR, gan weithio i gwmnïau fel Texaco, Birds Eye, Habitat, Unilever, a P&G.

Y Gwesteiwyr:

Rachel Moss - mae ganddi fwy na 25 o flynyddoedd o brofiad yn y cyfryngau, cyfathrebiadau a PR. Newyddiadurwr teledu rhanbarthol a rhwydwaith cenedlaethol am 10 mlynedd, gweithiodd fel darlledwr newyddion a gohebydd i ITN, ITV News, Five News, a’r BBC, cyn symud i faes PR a chyfathrebu yn 2005. Treuliodd Rachel 15 o flynyddoedd fel Pennaeth Cyfathrebu ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru ac mae ar hyn o bryd yn Swyddog Arweiniol PR a Chyfathrebu yng nghwmni cyfraith 100 blaenllaw’r DU, Hugh James, a’i ganolfan yng Nghaerdydd a Llundain. Mae Rachel yn gyd-sylfaenydd a chydlywydd Women in PR Cymru, aelod rhyngwladol Bwrdd GWPR, yn Gymrawd y CIPR ac ymarferwr PR Siartredig.

Laurian Hubbard – yn Gymrawd CIPR ac Ymarferwr PR Siartredig sydd wedi ennill gwobrau. Hi ar hyn o bryd yw Prif Swyddog Digwyddiadau yn arwain prosiect yn 10 Downing Street ac roedd yn ffurfiol yn Swyddog Arweiniol Cyfathrebu Strategol i Ddinasyddion a Gwledydd ar Ymgyrch Trawsnewid y DU yn Swyddfa’r Cabinet. Laurian hefyd yw Sefydlydd a Chydlywydd Women in PR Cymru, aelod Bwrdd Rhyngwladol Global Women in PR ac Aseswr Siartredig i Sefydliad Cysylltiadau Cyhoeddus Siartredig.