• Dyddiad
    2nd Mawrth 2023
  • Man cyfarfod
    On-line promotion
  • Gwesteiwr
    Welsh VenISon Centre
  • Categori
    Bwyd A Chrefftau

I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Cig Carw Cymru ar 2 Mawrth - ar y cyd ag Wythnos Cymru Llundain rydym yn cynnig cynnig arbennig ar bob archeb o 2 Mawrth hyd at 6 Mawrth!

· O wario £30, cewch becyn yn Rhad ac am ddim o stêcs cig carw (2 x Stecen cig carw 6 owns )

· Dyfynnwch gyf: WELSHVENISONDAY

· Wedi’i ddosbarthu i’ch drws!

Y Ganolfan Cig Carw Cymru a redir gan deulu yw’r lle rydym yn gwerthu’n cig carw, cig eidion a chig oen ein hunain, yn ogystal â phorc, cig iâr a detholiad o gig arall lleol o ansawdd.

Yn ein ‘Beacons Farm Shop’ cewch, hefyd, fara sydd wedi’i bobi’n lleol, peis a wnaed gartref, llysiau a llawer mwy. Beth am alw heibio am bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer picnic, barbeciw neu ginio dydd Sul!

Mae’r ‘Beacons Farm Shop’ yn ymwneud â mwy na chig yn unig.

Wrth gwrs gallwch gael darn o gig o ansawdd ar gyfer ei rostio, neu selsig a wnaed gartref sydd wedi ennill gwobrau. Fodd bynnag, beth am gael yr anrheg berffaith ar gyfer unrhyw achlysur yn ein siop anrhegion lle cewch eitemau hardd i gartref o garthen croen ein ceirw a’n defaid ein hunain, canhwyllau lleol, hufenau dwylo, blancedi a llawer mwy.

Mae gan ein staff cyfeillgar, parod eu cymwynas, sydd yn ‘llysgenhadon’ i’r Parc Cenedlaethol, ddigon o wybodaeth leol i’w rannu â chi a byddant yn edrych ymlaen at eich croesawu.

Ffoniwch ni - 01874 730929 - hoffem glywed oddi wrthych!

Canolfan Cig Ceirw Cymru & Beacons Farm Shop
Bwlch, Brecon, Powys, LD3 7HQ