Beth am fynd am dro drwy’r Inns of Court a Fleet Street, gan ddysgu am bobl Gymreig sydd â chysylltiad â’r ardal.
Caiff y daith gerdded ei harwain gan Dywysydd Dinas Llundain, Caroline James.
Taith o oddeutu awr a hanner i ddwy awr yw – a bydd yn gorffen ger Chancery Lane Station.
Y gost yw £12 yr unigolyn.
Bydd yr holl elw’n mynd i Ganolfan Cymry Llundain.
