• Dyddiad
    23rd Chwefror 2026 at 6:00yp
  • Man cyfarfod
    London Welsh Centre
  • Gwesteiwr
    Football Association of Wales
  • Categori
    Chwaraeon

Wrth ddathlu penblwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed yn ogystal â phenblwydd Cymru yn cyrraedd cyn gemau terfynol Ewropeaidd UEFA 2016 deng mlynedd yn ôl, ymunwch â’r Gymdeithas Bêl-droed ar gyfer gwylio’r ffilm ddogfen glodwiw - Don’t Take Me Home.

Mae Don’t Take Me Home yn dangos taith Cymru i’w gemau terfynol mawr cyntaf ers 58 o flynyddoedd a sut wnaeth y tîm roi ysgytwad i’r byd wrth drechu ffefrynnau’r gystadleuaeth, Gwlad Belg, ar ei ffordd i’r cyn gemau terfynol, gan ailddiffinio pêl-droed Cymru am byth.

Cynhelir y digwyddiad dathlu arbennig hwn yng Nghanolfan Cymry Llundain a daw â chefnogwyr Cymreig at ei gilydd i ailfwynhau’r emosiwn, balchder a ffydd a wirionodd genedl.

Ar ôl gwylio’r ffilm caiff cefnogwyr gyfle i sgwrsio ag aelodau carfan Cymru 2016. Fe gân nhw sesiwn fyw o holi ac ateb ag Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Perthnasau Cyhoeddus y FAW a chyn sylwebydd Match of the Day. Bydd Hughes yn trafod effaith y twrnamaint arnyn nhw a rhannu rhai hanesion tu ôl i’r llenni.

Bydd Jonny Owen, cyfarwyddwr Don’t Take Me Home, yn trafod sut a pham roedd o’r farn y dylid dal y cyfnod hanesyddol hwn ar ffilm.

Dyma gyfle prin a phersonol i ailgysylltu ag un o gyfnodau mawr hanes Cymru, heb sôn am chwaraeon Cymru.

Anelir y digwyddiad at gefnogwyr Cymreig yn byw ac yn gweithio yn Llundain, gan ddenu cynulleidfa wahanol na geir i nifer o ddigwyddiadau eraill Wythnos Cymru – gan gyfuno pêl-droed, diwylliant a balchder cenedlaethol.

Nid noson i’w cholli i unrhyw un sy’n cofio lle roedden nhw haf 2016 a sut deimlad oedd hi i gredu.

Tocynnau ar werth cyn bo hir: £20 y person.

Amser y digwyddiad: 6yh tan 10yh