Ymunwch ag Arfon Haines Davies wrth iddo hel atgofion am ei gyfeillgarwch gyda KW a sgwrsio am waith ffrind agos arall, y peintiwr portreadau David Griffiths - a oedd hefyd yn adnabod Kyffin yn dda.
Roedd Arfon yn un o’r wynebau mwyaf cyfarwydd a phoblogaidd ar HTV Cymru o 1975 am gyfnod o 30 mlynedd, ac mae nawr yn Llysgennad Celf Gymreig i arwerthwyr Rogers Jones and Co.